ADY
Mae gan bob aelod o dîm Ysgol Gynradd Groes-wen ymrwymiad i addysg gynhwysol i bob plentyn drwy ddarpariaeth sydd yn galluogi pawb i gyrraedd eu potensial llawn.
Mae Ysgol Groes-wen yn ysgol groesawgar ac ysbrydoledig sydd yn dangos cydraddoldeb i bawb. Cynigwn amgylchedd cynhwysol a hyblyg sydd yn sicrhau bod pob disgybl yn rhan o gymuned agos a gofalgar.
Mae’r ysgol yn ymrwymo i sicrhau bod pob plentyn yn derbyn yr un cyfleoedd beth bynnag ei gallu neu anghenion.
Cynigwn gwricwlwm hyblyg a chytbwys sydd yn hybu egwyddorion cynhwysol.
Defnyddir asesiad Wellcomm yn y Meithrin ac wrth symud drwy’r ysgol bydd pob plentyn yn cwblhau asesiad Language Links yn ogystal ȃ Speech links lle bod angen.
Mae’r ysgol yn gweithio’n agos gydag athrawon arbenigol y Sir er mwyn sicrhau y cefnogaeth gorau posib i bob unigolyn. Yn ogystal ȃ hyn mae nifer o gyfleoedd hyfforddi ar gael i staff yr ysgol.
Yn ychwanegol i sesiynau targedol yn y dosbarth, mae’r ysgol yn cynnig sesiynau
-
Clwb lego
-
Sesiynau Lles
-
Maths Factor
-
ELSA
-
Cyfathrebu
-
Handwriting Motorway
-
Ymyrraeth Language Link
-
Ymyrraeth Speech links