Ffrwd Cyfrwng Cymraeg
Addysg Gymraeg
Waeth beth yw eich iaith yn y cartref, gall Addysg Cyfrwng Cymraeg roi cyfleoedd, profiadau a sgiliau ychwanegol i’ch plant.
Mae nod syml iawn i addysg cyfrwng Cymraeg, sef rhoi’r gallu i blant ddod yn gwbl rugl yn y Gymraeg a’r Saesneg a derbyn addysg yn y pynciau eraill trwy’r cwricwlwm.
Mae plant ifainc yn dysgu ieithoedd yn hawdd iawn a thrwy wneud y gorau o’r potensial hwn y daeth addysg cyfrwng Cymraeg mor boblogaidd.
Mae pob teulu, a phob plentyn yn unigryw wrth gwrs. Ond mae teuluoedd o bob math yn elwa o addysg cyfrwng Cymraeg, teuluoedd nad ydyn nhw’n siarad Cymraeg a rhai sydd; teuluoedd o bob math o gefndir ethnig a chrefyddol; teuluoedd o Gymru a rhai sydd wedi symud yma o rywle arall.
Does dim rhaid i chi fod yn Gymry i siarad Cymraeg. Mae rhieni plant mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd yn dod o bedwar ban y byd: Cymru, gweddill y DU, Ewrop, Asia, Affrica, Gogledd a De America. Mae rhai yn ystyried eu hunain yn Gymry a rhai ddim, y prif bwynt yw bod dysgu Cymraeg yn agored i bawb.
Mae disgwyl i blant sy’n gadael ysgolion cyfrwng Cymraeg gyrraedd union yr un safonau Saesneg â’r rhai sydd mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg. Ac yn yr ysgolion uwchradd, mae’r plant yn yr ysgolion cyfrwng Cymraeg yn sefyll union yr un arholiadau TGAU a Lefel A â’u cyfoedion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.