Skip to content ↓

Dosbarth Lili Wen Fach

Croeso i dudalen dosbarth Lili Wen Fach

Dosbarth Meithrin 

Mae dechrau ysgol yn gam mawr ym mywyd plentyn ac anelwn at wneud y pontio o’r cartref i’r ysgol mor slic â phosib iddyn nhw ac i chi. Yn Lili Wen Fach rydym yn darparu ar gyfer anghenion pob plentyn trwy roi’r cyfle i bob plentyn ddatblygu sgiliau ac annibyniaeth drwy chwarae a dysgu mewn amgylchedd sy’n eu sbarduno, sy’n ddiogel, sy’n magu sicrwydd ac sy’n un hapus a chartrefol. Cynlluniwyd y dosbarth i fod yn ystafell agored, olau sydd yn cynnwys elfennau naturiol, fel blanhigion, golau naturiol a lliwiau daearol, i hyrwyddo ymdeimlad o dawelwch. Y tu allan, mae ardal ddysgu benodol gyda chanopi a llawr meddal sydd yn galluogi’r plant i chwarae a dysgu yn yr awyr agored ym mhob tywydd! 

 

Staff: 

Mrs Rhisiart yw ein hathrawes. Rydym yn lwcus iawn i gael Miss Roberts, Miss Lewis, a Miss Churcher yn ein helpu yn y dosbarth drwy’r dydd. Bydd Mrs Tiplady yn dysgu’r dosbarth Iaith Ddeuol ar fore dydd Iau a’r dosbarth Iaith Cymraeg ar brynhawn Gwener

 

Cysyniad:

Cliciwch ar y Linc isod.

 

Ymarfer corff:

Yn ein Meithrin, nid oes gennym ddiwrnod penodol ar gyfer Addysg Gorfforol. Yn lle hynny, rydym yn ymgorffori symudiad yn ein trefn ddyddiol i sicrhau bod y plant yn cael cyfleoedd rheolaidd i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol. Mae’r dull hwn wedi’i ysbrydoli gan athroniaeth Froebel, sy’n pwysleisio bod datblygiad corfforol yn hanfodol i dwf a dysgu cyffredinol plentyn. Mae hyn hefyd yn cyd-fynd â’r Cwricwlwm Nas Cynhelir, sy’n annog datblygiad corfforol a symudiad fel rhan o brofiadau dysgu bob dydd.

 

Neges gan Mrs Rhisiart:

O brofiad, mae’r blynyddoedd cynnar yma yn hedfan, felly cofiwch i drysori pob eiliad a mawr obeithiwn ddatblygu perthynas glos wrth i ni rannu taith eich plentyn.