Skip to content ↓

Dosbarth Fioled

Croeso i ddosbarth Fioled!

Miss Jefferies yw'r athrawes dosbarth ac yn mae hi'n mwynhau pob eiliad! Anogwn ein  disgyblion i fod yn annibynnol, hyderus, egwyddorol, gwybodus, iach, gweithgar ac ymroddgar yn y dosbarth a'r awyr agored wrth gynllunio gweithgareddau sydd yn eu sbarduno a'u herio.

Yn ystod tymor yr Hydref rydym yn canolbwyntio ar "Ein Milltir Sgwâr." Byddwn yn canolbwyntio ar ein hardal leol, tai a chartrefi o'r gorffennol a'r presennol. 

Ymarfer Corff: Dydd Llun

Pecynnau darllen: Dychwelyd i'r ysgol ar ddydd Iau a'u dosbarthu ar ddydd Gwener.

Byrbryd: Bydd disgyblion yn derbyn byrbryd iachus yn ystod sesiwn FIKA. Gofynnwn yn garedig am gyfraniad tuag at y byrbryd.