Skip to content ↓

Dosbarth Lili Wen Fach

Croeso i dudalen dosbarth Lili Wen Fach

Dosbarth Meithrin 

Mae dechrau ysgol yn gam mawr ym mywyd plentyn ac anelwn at wneud y pontio o’r cartref i’r ysgol mor slic â phosib iddyn nhw ac i chi. Yn Lili Wen Fach rydym yn darparu ar gyfer anghenion pob plentyn trwy roi’r cyfle i bob plentyn ddatblygu sgiliau ac annibyniaeth drwy chwarae a dysgu mewn amgylchedd sy’n eu sbarduno, sy’n ddiogel, sy’n magu sicrwydd ac sy’n un hapus a chartrefol. Cynlluniwyd y dosbarth i fod yn ystafell agored, olau sydd yn cynnwys elfennau naturiol, fel blanhigion, golau naturiol a lliwiau daearol, i hyrwyddo ymdeimlad o dawelwch. Y tu allan, mae ardal ddysgu benodol gyda chanopi a llawr meddal sydd yn galluogi’r plant i chwarae a dysgu yn yr awyr agored ym mhob tywydd! 

 

Staff: 

Mrs Rhisiart yw ein hathrawes. Rydym yn lwcus iawn i gael Miss Roberts, Miss Lewis a Mr Tough yn ein helpu yn y dosbarth drwy’r dydd. Bydd Mrs Tiplady yn dysgu’r dosbarth ar fore dydd Mercher a Gwener. 

 

Cysyniad:

Ein cysyniad ar gyfer tymor y Gwanwyn yw 'Gwrthdaro'. 

 

Ymarfer corff:

Bydd ein sesiwn ymarfer corff ar ddydd LLun. Croeso i’r plant ddod i’r ysgol yn eu gwisg ymarfer corff. 

 

Neges gan Mrs Rhisiart:

O brofiad, mae’r blynyddoedd cynnar yma yn hedfan, felly cofiwch i drysori pob eiliad a mawr obeithiwn ddatblygu perthynas glos wrth i ni rannu taith eich plentyn.