Siarter Iaith
Nôd y Siarter Iaith yw annog plant a’u teuluoedd i ddefnyddio eu Cymraeg yn amlach mewn sefyllfaoedd cymdeithasol o fewn yr ysgol a thu hwnt. Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am arwain y Siarter ac rydym ni’n gweithio i’w gefnogi o fewn yr ysgol ac yn y gymuned leol.
Mae’r Siarter Iaith yn gyfle i bawb yng nghymuned yr ysgol i chwarae eu rhan wrth hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg; y disgyblion, y gweithlu, rhieni, llywodraethwyr a’r gymuned ehangach er mwyn sicrhau perchnogaeth lawn o’r iaith.
Rydych chi eisoes wedi dewis addysg Gymraeg neu iaith ddeuol i’ch plentyn ac yn deall manteision medru siarad dwy iaith. Y ffordd orau o sicrhau hyn yw wrth annog eich plentyn i ddefnyddio’r Gymraeg mor aml â phosib. Gall hyn fod drwy siarad Cymraeg, mynychu gweithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg yn yr ysgol a thu allan i oriau ysgol, gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg, gwylio teledu Cymraeg neu ddefnyddio cyfryngau megis apiau yn Gymraeg. Byddwn ni fel ysgol yma i’ch rhoi chi ar ben ffordd a’ch cefnogi y gorau gallwn ni gyda hyn. Gobeithiwn y gallwn gynnig am y Wobr Efydd yn y dyfodol agos!